Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil

Gwerth y Grant: Hyd at £3,000

Nifer y Grantiau ar Gael: 13

Ar Agor I: Ymchwilwyr ar ddechrau a chanol gyrfa yn gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth
Dyddiad Cau: 23 Ionawr 2026 am 4pm

Hyd at £3,000 i gefnogi rhwydweithiau ymchwilwyr presennol neu sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru i barhau i gynnig gweithgareddau cydweithio hanfodol o ran diwylliant ymchwil.

Gall Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil gymryd sawl ffurf; mae enghreifftiau’n cynnwys rhwydweithiau sy’n canolbwyntio ar heriau a wynebir mewn cyfnod penodol o ran gyrfa, dileu rhwystrau i ymchwilwyr â nodweddion gwarchodedig, a chymunedau sydd wedi’u trefnu o amgylch disgyblaethau penodol neu ddiddordebau ymchwil trawsddisgyblaethol. Gall rhwydweithiau ymchwil weithredu o fewn un sefydliad neu ar draws sefydliadau. Gallant fod wedi’u seilio mewn un ddisgyblaeth academaidd neu fod yn rhyngddisgyblaethol.

Mae’r cynllun ar agor i ymchwilwyr a staff galluogi ymchwil sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.

Ymgeisiwch: https://www.learnedsociety.wales/research-culture-networks-grants-2026/