Cyfres Seminarau’r Coleg Doethurol
Ymunwch â ni ar gyfer ein seminar nesaf yng Nghyfres Seminarau’r Coleg Doethurol. Mae’r gyfres o sgyrsiau yn dod ag ymchwilwyr ôl-raddedig a staff ar draws y Brifysgol at ei gilydd er mwyn rhannu mewnwelediadau i straeon a dysgu ymchwilwyr.
Croeso i bawb!
If you know your ologies: Tales from the bog and other stories
Dr John Harris
Athrofa Dysgu Canol Dinas, PCYDDS Birmingham
5ed Chwefror 2026 1-2yp
Lecture Room 16, Louisa House, Birmingham ac Ar-lein
Trosolwg
Bydd y cyflwyniad hwn yn ystyried sut mae unigolion yn dewis pynciau ar gyfer ymchwil ac yn adfyfyrio ar rai o’r ffyrdd rydym yn ysgrifennu am yr astudiaethau hyn. Fe fydd yn edrych ar rôl adfyfyrio a sut y caiff ysgolheictod ei gyflwyno/gynrychioli. Wedi’i siapio gan ddychymyg cymdeithasegol C Wright Mills, a gwaith y damcaniaethwr diwylliannol Raymond Williams, rwy’n amlinellu rhai o heriau a phosibiliadau ysgrifennu yn y person cyntaf. Mae’n defnyddio ymchwil ethnograffeg, astudiaethau achos ar ddadansoddiad sgyrsiau’r cyfryngau, ac amrywiol brosiectau ymgynghori ac ymgysylltu. Mae’r stori hwn yn dechrau gyda myfyriwr PhD ifanc yn straffaglu i ddod o hyd i ffocws ymchwil ac yn gorffen gydag unigolyn llawer yn hŷn yn gweithio ar gyflwyniad REF ar draws pum uned asesu. Fe fydd yn cynnwys aros i edrych ar rai o’r mannau mwyaf diddorol ar y ffordd. Mae’r rhain yn cynnwys Gemau Amgen y Byd yn nhref leiaf Prydain a thudalennau blaen papurau newydd cenedlaethol.
Bywgraffiad
Ymunodd John Harries â PCYDDS yn yr haf 2025 i arwain y ddarpariaeth gyntaf o’r rhaglen DBA ar gampws Birmingham. Roedd ei swyddi blaenorol yn cynnwys Athro Cysylltiol mewn Gweinyddiaeth Chwaraeon â daliadaeth (Kent State University, UDA) ac Athro Busnes Diwylliannol (Prifysgol Glasgow Caledonian, Yr Alban). Mae gan John broffil ymchwil eclectig ac mae wedi mwynhau cydweithio â chydweithwyr ar draws amryw o feysydd pwnc. Mae’r gwaith hwn wedi cael ei gyhoeddi mewn ystod o gyfnodolion gan gynnwys Geographical Research, Scottish Affairs, Journal of Rural Studies, Management Research Review, International Journal of Sociology and Social Policy, a National Identities. Ef yw awdur Rugby Union and Globalization (Palgrave Macmillan) a golygydd/cyd-olygydd nifer o antholegau mewn rheolaeth chwaraeon, digwyddiadau a thwristiaeth.
Cofrestrwch yma