Yn llwytho Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

Cyhoeddi deunydd ffeithiol ar gyfer y darllenydd cyffredinol

24 February @ 1:00 pm - 2:00 pm

Bwriad y sesiwn weithdy ryngweithiol hon yw annog ymchwilwyr i gyhoeddi deunyddiau ffeithiol drwy ddysgu strategaethau o safbwyntiau’r awdur a’r golygydd. Mae’n bleser mawr gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gydweithio â’n Cymrawd, yr Athro Hanna Diamond (Athro Emerita Hanes Ffrainc, Prifysgol Caerdydd) a Joanna Godfery (Uwch Olygydd Comisiynu, Gwasg Prifysgol Yale Llundain) i gynnal y sesiwn hon sy’n agored i ymchwilwyr gyrfa gynnar a chanol gyrfa yng Nghymru.

Bydd Jo Godfery yn defnyddio ei phrofiad yn Yale i amlinellu’r prif egwyddorion ar gyfer datblygu llyfr masnachol llwyddiannus. Bydd Jo yn cynnig awgrymiadau ar sut all ymchwilwyr feddwl am bynciau sydd o ddiddordeb i gynulleidfa eang, a datblygu arddull ysgrifennu hygyrch a chymhellol. Bydd hefyd yn trafod perthnasedd meithrin ymgysylltiad â’r cyhoedd er mwyn cynyddu dosbarthiad y llyfr ymysg y cyhoedd. Bydd Jo hefyd yn mynd i’r afael â phynciau cysylltiedig, gan gynnwys adolygu gan gymheiriaid a sut mae’r modelau hyn yn croestorri ag ysgolheictod ffeithiol.

Bydd yr Athro Hanna Diamond yn canolbwyntio ar y grefft o gydbwyso dyfnder ysgolheigaidd â natur ddarllenadwy. Yn seiliedig ar ei chyhoeddiad diweddar, ‘Josephine Baker’s Secret War’, bydd Hanna yn trafod sut y bu iddi integreiddio fframweithiau academaidd i gynnwys y llyfr, er enghraifft, sut yr ymdriniodd â thystiolaeth a ffynonellau mewn ffyrdd sy’n cyfrannu at y naratif a hynny wrth gynnal momentwm i ddarllenwyr cyffredinol. Yn ogystal, bydd Hanna yn myfyrio ar strategaethau i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ehangach mewn trafodaethau ysgolheigaidd ac yn trafod sut y gall cyhoeddiadau masnachol gyfrannu at gydnabyddiaeth academaidd, gan amlygu y gall llyfrau a anelir at ddarllenwyr cyffredinol gyflawni sgorau uchel mewn paneli REF a gweithio fel y sylfaen ar gyfer astudiaethau achos effaith REF.


Siaradwyr Gwadd:

  • Yr Athro Hanna Diamond (FLSW), Athro Emerita Hanes Ffrainc ym Mhrifysgol Caerdydd
    Mae Hanna Diamond yn Athro Emerita Hanes Ffrainc ym Mhrifysgol Caerdydd. Astudiodd ei gradd israddedig a’i PhD ym Mhrifysgol Sussex. Treuliodd sawl blwyddyn yn addysgu ac yn ymchwilio yn Ffrainc cyn derbyn swydd darlithydd ym Mhrifysgol Caerfaddon ym 1993. Fe’i penodwyd yn gadeirydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2014.
    Yn arbenigwr ar hanes cymdeithasol a diwylliannol Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar y cyfnod, gan gynnwys, Fleeing Hitler: France 1940 (2007) ac Women and the Second World War in France 1939-48 (1999). Yn rheolaidd, mae’n cynghori ar gynhyrchu ffilmiau a deunyddiau i’r cyfryngau yn ogystal â gweithio ag amgueddfeydd, yn nodedig – y Musée de la Libération de Paris lle y bu iddi gyd-guradu arddangosfa ar ecsodus Ffrainc 1940.
  • Joanna Godfrey, Uwch Olygydd Comisynu, Gwasg Prifysgol Yale Llundain
    Jo Godfrey yw’r Uwch Olygydd Comisiynu ar gyfer Hanes Modern a Materion Cyfoes yng Ngwasg Prifysgol Yale Llundain. Mae wedi gweithio yn y byd cyhoeddi ffeithiol am bron i ugain mlynedd ac yn y gorffennol mae wedi gweithio yn OUP, I.B.Tauris a Bloomsbury.


Agenda:

  • 1.00-1.05pm: Croeso a Chyflwyniad
  • 1.05- 1.20pm: Ysgrifennu Llyfrau Cyffredinol – Mewnwelediadau o Yale
    – Deall apêl y gynulleidf
    – Ysgrifennu strategaethau ar gyfer darllenwyr cyffredinol
    – Adeiladu platfform sy’n wynebu’r cyhoedd ac ymgysylltu â’r cyfryngau
    – Ystyriaethau adolygiadau cyfoedion
  • 1.20-1.35pm: Cydbwyso Ysgolheictod a Hygyrchedd
    – Defnyddio troednodiadau i ddiogelu fframweithiau academaidd
    – Plethu tystiolaeth a ffynonellau mewn naratif
    – Cynnal diddordeb darllenwyr a chynnal dyfnder ysgolheigaidd ar yr un pryd
    – Strategaethau i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach a dylanwad posibl o ran y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
  • 1.35-1.45pm: Grwpiau Trafod
    Meddyliwch am eich hoff lyfr ffeithiol, llyfr a ddaliodd eich diddordeb fel darllenydd cyffredinol, gan gyfleu syniadau cymhleth a thrafodaethau ysgolheigaidd ar yr un pryd, a myfyriwch ar y cwestiynau canlynol:
    (1) Pa 2-3 elfen a gynhaliodd eich diddordeb fel darllenydd? Yn eich barn chi, pam oedd y nodweddion hyn yn effeithiol o ran gwneud syniadau cymhleth yn hygyrch?
    (2) Petaech yn dechrau ysgrifennu eich llyfr ffeithiol eich hun sy’n pontio dyfnder academaidd â diddordeb cyffredinol, beth fyddai eich her fwyaf a pham?
  • 1.45-1.55pm: Sesiwn Holi ac Ateb
  • 1.55 – 2.00pm: Sylwadau i Gloi

Amdano’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru:

Mae’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr sy’n gweithio ledled Cymru ac sydd yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd. Mae’r Rhwydwaith yn cefnogi ymchwilwyr i dyfu eu rhwydweithiau ymchwil, cymryd rhan mewn cyfleoedd cydweithredol a rhyngddisgyblaethol, cael hyfforddiant, a dod o hyd i ffyrdd newydd o greu effaith gydag ymchwil.

Cofrestru | Register – Cyhoeddi deunydd ffeithiol ar gyfer y darllenydd cyffredinol | Publishing non-fiction for the general reader – Zoom

Manylion

  • Dyddiad: 24 February
  • Amser:
    1:00 pm - 2:00 pm

Venue

  • Ar-lein