- This Digwyddiad has passed.
Gweminar ORCID ar gyfer Ymchwilwyr
Dewch i ddarganfod pam bod cael ID ORCID am ddim a llenwi eich cofnod ORCID yn allweddol er mwyn i ymchwilwyr gael eu cydnabod am eu gwaith
Dull adnabod dyfal (PID) rhad ac am ddim, unigryw yw ORCID i unigolion ei ddefnyddio wrth iddynt ymgysylltu â gweithgareddau ymchwil, ysgolheictod, ac arloesi. Mae cael iD ORCID a llenwi’ch proffil yn helpu i gyflawni gweledigaeth lle bydd pawb sy’n cymryd rhan mewn ymchwil, ysgolheictod ac arloesi yn cael eu hadnabod yn unigryw a’u cysylltu i’w cyfraniadau ar draws disgyblaethu, ffiniau, ac amser.
Gall eich iD a phroffil ORCID eich helpu i arbed amser a chael cydnabyddiaeth ac eich gwaith mewn llifoedd gwaith ariannu, cyhoeddi, ac adrodd ar ymchwil. Yn amlach ac amlach, mae sefydliadau ariannu, cyhoeddwyr a sefydliadau ymchwil yn mynnu neu’n gofyn am iD ORCID gan ymchwilwyr.
Yn y gweithdy hwn, byddwn yn cynnwys y canlynol:
- Trosolwg o fanteisio ORCID i ymchwilwyr
- Sut gall ORCID eich helpu i arbed amser ar draws y dirwedd ymchwil
- Dangos y gwelliannau diweddaraf gan ORCID
- Dangos i chi sut i gadw eich cofnod ORCID yn gyfredol
- Ateb unrhyw gwestiynau
Mae’r weminar yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb. Nid oes raid bod gennych wybodaeth flaenorol am ORCID. Caiff ei recordio.
Cofrestrwch ar gyfer y weminar yn https://www.jisc.ac.uk/events/orcid-for-researchers