Yn llwytho Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

Gwneud yn fawr o’ch Goruchwyliwr

5 November @ 1:00 pm - 2:30 pm

Mae’r sesiwn hon yn ymdrin â sut i wneud yn fawr o’r berthynas sy’n bodoli rhwng y myfyriwr/ myfyrwraig a’r goruchwyliwr, a sut mae’r fath berthnasau’n datblygu a newid dros gyfnod. Mae hi wedi’i chynllunio er mwyn mynd i’r afael â gwahanol elfennau o’r hyn a ddisgwylir o fyfyrwyr doethurol gan oruchwylwyr, y staff a’r brifysgol; ynghyd â’r broses adolygu flynyddol ac adborth, a hefyd, yr elfennau mwy ymarferol o’r perthnasau sy’n datblygu. Gwnaiff y sesiwn hefyd gynnwys yr hyn y dylech ei wneud pe baech yn cael unrhyw broblemau, neu os ydych am wneud unrhyw newidiadau i’ch tîm goruchwylio.

Nodau’r sesiwn hon yw:

  • Deall rolau a chyfrifoldebau myfyrwyr a goruchwylwyr
  • Deall disgwyliadau’r brifysgol o ran perthnasau goruchwylio
  • Dysgu lle y dylech fynd pe bai unrhyw broblemau’n codi.

Sesiwn ar gyfer myfyrwyr yw hon

Cyflwynir y sesiwn hon drwy gyfrwng y Saesneg

Cofrestrwch yma –

Gwneud yn fawr o’ch Goruchwyliwr – Getting the Best from your Supervisor | Join meeting in Teams | Microsoft Teams

Manylion

  • Dyddiad: 5 November
  • Amser:
    1:00 pm - 2:30 pm
  • Digwyddiad Category:

Venue

  • Ar-lein