Canllawiau ar gyfer y rhai sy’n defnyddio platfformau neu apiau y tu allan i’r DU/UE. Diweddarwyd 16/09/26

Sylwch ar y newidiadau pwysig isod ar gyfer unrhyw un sy’n bwriadu defnyddio unrhyw blatfformau sy’n cael eu cynnal y tu allan i’r DU neu’r UE. Mae’r newidiadau hyn wedi dod i rym ar unwaith a rhaid eu hadlewyrchu mewn ymchwil yn y dyfodol.Sylwch ar y newidiadau pwysig isod ar gyfer unrhyw un sy’n bwriadu defnyddio unrhyw blatfformau sy’n cael eu cynnal y tu allan i’r DU neu’r UE. Mae’r newidiadau hyn wedi dod i rym ar unwaith a rhaid eu hadlewyrchu mewn ymchwil yn y dyfodol.

Os ydych chi’n cynllunio eich ymchwil ar hyn o bryd, rhaid i chi ystyried y newidiadau hyn wrth gwblhau eich ffurflen PG2.

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i bawb sy’n defnyddio platfformau digidol, fel platfformau e-fasnach, sydd wedi’u cynnal y tu allan i’r DU a’r UE.

Gofynion moesegol ar gyfer defnyddio Platfformau Digidol neu apiau nad ydynt yn cael eu cynnal yn y DU/UE wrth Gasglu Data Ymchwil Ôl-raddedig.

Mewn sefyllfaoedd lle nad ydym yn gallu bod yn sicr y bydd y data hynny’n aros yn y DU neu’r UE, rhaid cael caniatâd penodol o bob cyfrannwr cyn eu defnyddio.

Dylech greu Taflen Wybodaeth i Gyfranogwyr (PIS) ar gyfer yr ap sy’n darparu:

  1. Manylion llawn yr ap, gan gynnwys esboniad o’r ffyrdd y gallai brosesu’r data fel yr amlinellir yn eu datganiad preifatrwydd neu eu contract. Dylid cynnwys dolen i’r datganiad preifatrwydd hefyd.
  2. Datganiad yn debyg i hyn: “Trwy gymryd rhan yn yr ymchwil hwn rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r […] ap a allai storio a phrosesu eich gwybodaeth y tu allan i’r DU. Rydych chi’n cytuno nad yw PCYDDS yn gyfrifol am unrhyw ffordd y gallai eich data gael eu defnyddio gan […]”
  3. Llofnod (digidol neu ysgrifenedig yn dderbyniol) a dyddiad. Rhaid i’r PIS gael ei lofnodi a’i ddyddio cyn y gall y cyfranogwr ddechrau cymryd rhan yn eich ymchwil. Gall blwch ticio y mae cyfranogwr yn ei ddewis yn weithredol fod yn dderbyniol fel tystiolaeth o gydsyniad yn lle llofnod digidol neu ysgrifenedig hefyd.

Defnyddio WeChat a Phlatfformau Cyfryngau Cymdeithasol neu Negeseuon Tebyg: Dylai ymchwilwyr sy’n bwriadu defnyddio WEChat (Weixin), neu blatfformau tebyg fel Welbo, WhatsApp, Facebook, Instagram, X (Twitter gynt), LinkedIn ar gyfer recriwtio, cyfathrebu, neu gasglu data fod yn ymwybodol y gallai data personol gael eu prosesu neu eu storio y tu allan i’r DU/UE a gall fod yn ddarostyngedig i fframweithiau cyfreithiol, rheoleiddiol a phreifatrwydd gwahanol. Cyn casglu neu rannu data ymchwil trwy blatfformau o’r fath, rhaid i ymchwilwyr ystyried diogelu data, cyfrinachedd, cydsyniad gwybodus, ac unrhyw ofynion trosglwyddo data traws ffiniol. Dylid hysbysu cyfranogwyr am unrhyw gyfyngiadau preifatrwydd sy’n gysylltiedig â’r platfform a ddefnyddir, a dylid trosglwyddo data ymchwil adnabyddadwy i systemau diogel a gymeradwywyd gan y Brifysgol ac nid eu cadw’n ddiangen ar gymwysiadau trydydd parti. Dylai ymchwilwyr geisio cyngor gan eu goruchwyliwr neu’r Pwyllgor Moeseg Ymchwil lle bo hynny’n briodol.

SYLWER: Os nad oes datganiad preifatrwydd gan y platfform digidol/ap, neu os nad yw’n cael ei nodi’n glir ar gontract neu o fewn eu telerau ac amodau, ni fydd ei ddefnydd yn cael ei gymeradwyo.

Mae’r diweddariadau hyn yn ymwneud â rhan berthnasol o’n Polisi Rheoli Data Ymchwil:

6.11. Nid yw GDPR y DU yn caniatáu trosglwyddo data personol y tu allan i’r UE neu wlad heb ddiogelwch digonol heb fodloni amod fel cydsyniad penodol neu gontract rhwymol. Felly, dylai ymchwilwyr bob amser gael cydsyniad penodol neu anomeiddio data cyn anfon data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (Y UE a Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Chadeiryddion y Pwyllgor Moeseg Ymchwil yn

r.humphreys@uwtsd.ac.uk a nicola.whitehead@uwtsd.ac.uk