Cyfres Seminarau’r Coleg Doethurol
Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol – Uchafbwyntiau ac Isafbwyntiau ymchwil maeth
Dr Chris Cashin
25 Tachwedd 2026
Ar-lein
Ymunwch â ni ar gyfer ein sesiwn nesaf yng Nghyfres Seminarau’r Coleg Doethurol.
Bydd sesiwn hon yn trafod y canlynol:
- Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol
- Rhesymau dros gwblhau’r math hon o raglen
- Buddion y rhan a addysgir
- Y broses ymchwil – yn enwedig llywio fy hun drwy bandemig byd-eang
- Beth ydw i wedi’i ddysgu?
- Beth oedd canlyniadau’r ymchwil?
- Ble ydw i nawr?
Astudiaeth achos yn archwilio cymeriant maethol pobl ifanc gwrywaidd 10 – 16 oed yn Ne-ddwyrain Cymru a llythrennedd maethol eu rhieni neu eu gwarcheidwaid.
Cyflwyniad: Mae’r glasoed yn gyfnod o dwf cyflym a newid mawr ym mywydau pobl ifanc. Mae cyfres y Lancet ar faeth yn y grŵp oedran hwn wedi tynnu sylw at y bylchau mewn gwybodaeth a rhaglenni effeithiol i gefnogi twf iach yn ystod y glasoed1.
Ysgogwyd yr ymchwil gan y darganfyddiad bod chwiliadau o’r llenyddiaeth gyhoeddedig ar gymeriant maethol y grŵp oedran hwn yn gyfyngedig, yn ogystal â data cyfyngedig ar faeth a llythrennedd bwyd rhieni/gwarcheidwaid. Mae’r ymchwilydd sy’n ddietegydd a maethegydd chwaraeon ac yn gweithio gyda charfannau datblygu wedi nodi hyn hefyd. Arweiniodd hyn at yr ymchwilydd yn ymgymryd â’r prosiect wrth astudio Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol.
Felly, nod cyffredinol yr ymchwil oedd deall beth oedd yr arfer maethol presennol mewn carfan o bobl ifanc gwrywaidd rhwng 10 a 16 oed yn ogystal â rhai agweddau ar lythrennedd maethol eu rhieni/gwarcheidwaid.
Dulliau: Cynhaliwyd yr ymchwil mewn clybiau rygbi yn Ne Cymru gan alluogi’r ymchwilydd i gwrdd â’r rhieni/gwarcheidwaid yn hawdd. Defnyddiwyd dulliau cymysg lle dilynwyd dadansoddiad meintiol maethol o ddyddiaduron bwyd 5 diwrnod (n=37), gan gyfweliadau ansoddol lled-strwythuredig ar lythrennedd maethol gyda’r rhieni/gwarcheidwaid (n=17). Dadansoddwyd data o’r dyddiaduron bwyd gan ddefnyddio meddalwedd2 dadansoddi maethol a chymeriant o’i gymharu â Gwerthoedd Cyfeirio Dietegol a Chanllawiau Maeth yn y DU3. Rheolwyd y data gan ddefnyddio meddalwedd ddadansoddol SPSS, v 32 4. Dilynwyd hyn gan ddadansoddiad thematig o gyfweliadau lled-strwythuredig. Cymeradwywyd yr ymchwil gan y pwyllgor moeseg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Canlyniadau: Nododd yr ymchwil nad oedd cymeriant maethol rhai o’r grŵp o bobl ifanc gwrywaidd yn bodloni canllawiau dietegol y Deyrnas Unedig. Dangoswyd proffiliau maethol tan-fwyta gan gynnwys calsiwm, haearn, seleniwm a fitamin D. Ni chafodd targedau maethol allweddol eraill megis bwyta ffrwythau a llysiau a physgod olewog eu bodloni. Ni chredir bod gan fechgyn o’r oedran hwn anghenion maethol ychwanegol hyd yn oed os ydyn nhw’n cymryd rhan mewn chwaraeon hamdden5. Roedd maeth a llythrennedd bwyd yn gyfyngedig yn y rhieni/gwarcheidwaid, yn enwedig yn ymwneud â deall prif faetholion a chanllawiau dietegol. Daeth yr ymchwil i’r casgliad bod ganddynt ddealltwriaeth wael o’r Canllaw Bwyta’n Iach. Adroddodd y rhieni/gwarcheidwaid fod gwybodaeth yn ymwneud â maeth yn ddryslyd ac roedd angen iddi fod yn haws i’w deall.
Casgliad: Daeth yr astudiaeth arsylwadol i’r casgliad nad oedd y grŵp o fechgyn yn bodloni rhai gofynion maeth a thargedau maethol allweddol. Dangosodd y rhieni/gwarcheidwaid lythrennedd maethol cyfyngedig hefyd. Mae’r astudiaeth hon o ddiddordeb i Ddietegwyr ac ymarferwyr gofal iechyd gan ei bod yn tynnu sylw at gymeriant maethol gwael mewn grŵp o fechgyn yn eu harddegau, ochr yn ochr â llythrennedd maethol cyfyngedig eu rhieni/gwarcheidwaid. Dylai Ymarferwyr Iechyd ddechrau ystyried maeth a llythrennedd bwyd fel cyfle i ddeall pam mae unigolion yn gwneud dewisiadau bwyd personol, ochr yn ochr â gwella mynediad i adnoddau addysg yn ymwneud â maeth.
Cyfeiriadau:
- Norris S, Frongillo E, Black M, Dong Y, Fall C, Lampl M. Nutrition in growth and adolescence. Lancet. 2021;399(10320):174-184.
- Nutritics. Nutritional analysis software [Internet]. 2017 [cited 2018 Jan 20]. Available from: https://www.nutritics.com/app/
- Department of Health. Dietary reference values for food energy and nutrients for the United Kingdom: report of the panel on dietary reference values of the Committee on Medical Aspects of Food Policy. 5th ed. London: Stationery Office Books; 1991.
- IBM Corp. IBM SPSS Statistics. Armonk (NY): IBM Corp.; 2022.
- Smith J, Jeukendrup A. Performance nutrition for young athletes. In: Bagchi D, et al., editors. Nutrition and enhanced sports performance. London: Academic Press; 2018.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno gan Dr Chris Cashin.
Mae Chris yn uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn yr ysgol Chwaraeon a Byw’n Iach yng Nghaerfyrddin lle mae’n arwain ar Faeth. Fe yw Rheolwr Rhaglen ar gyfer y rhaglen MSc mewn Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Mae Chris yn Ddietegydd Cofrestredig gyda chefndir yn y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol, mae’n Faethegydd Cofrestredig (Y Gymdeithas Maeth) ac yn Ymarferydd Cofrestredig (y Gofrestr Chwaraeon ac Ymarfer Corff).
Mae cwblhau doethuriaeth wedi bod yn uchelgais Chris erioed a daeth y cyfle i wireddu hyn yn 2016. Cofrestrodd Chris ar gwrs Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ar ôl cwblhau rhan o’r rhaglen a addysgir, dechreuodd brosiect ymchwil. Penderfynodd Chris, sy’n Ddietegydd Pediatrig yn y GIG, ddatblygu prosiect ymchwil sy’n ymchwilio i gymeriant maethol chwaraewyr rygbi ifanc a llythrennedd maethol eu rhieni/gwarcheidwaid, ar ôl iddo weithio gyda llawer o garfannau datblygu fel Maethegydd Chwaraeon. Nododd fwlch yn y llenyddiaeth lle mae tystiolaeth gyfyngedig iawn ar yr hyn mae grwpiau o blant yn ei fwyta ac a oes gan rieni neu warcheidwaid wybodaeth ddigonol o ofynion maethol.
Cofrestrwch yma