Bydd y sesiwn hyfforddi graidd hon ar gyfer goruchwylwyr YOR yn cyflwyno goruchwylwyr newydd i gwestiynau allweddol mewn goruchwyliaeth ddoethurol, ac yn gosod y sail ar gyfer digwyddiadau craidd dilynol ar gyfer hyfforddi a datblygu goruchwylwyr. Byddwn yn mynd i’r afael â chwe agwedd ganolog ar oruchwylio.
- Beth mae ‘goruchwylio’ yn ei olygu?
- Sut ydw i’n gwneud yn siŵr fod fy nhîm yn rhedeg yn dda?
- Sut ydw i’n gwybod beth sydd angen ei wneud pryd?
- Sut ydw i’n gwybod sut i dawelu a gwrando?
- Sut ydw i’n gwybod bod fy myfyriwr ar y trywydd cywir ac ar amser?
- Sut ydw i’n gwybod pan fydd y rhain yn newid?
Y nod yw eich cyflwyno i’r dirwedd oruchwylio, a’ch caniatáu i archwilio dulliau a phroblemau ym maes goruchwylio. Caiff llawer o’r materion hyn eu datblygu ymhellach mewn sesiynau eraill yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.