‘Cystadleuaeth traethawd tri munud:’Arddangosfa ymchwil yr Eisteddfod yn dychwelyd

 

 

 

Bydd y sgil o ddisgrifio ymchwil gymhleth i’r cyhoedd yn cael ei brofi unwaith eto yn ein cystadleuaeth boblogaidd ‘Traethawd Tri Munud’ yn yr Eisteddfod eleni yn Y Garreg Las. Mae’r gystadleuaeth, sydd yn cael ei threfnu gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn agored i unrhyw ymchwilydd israddedig, ôl-raddedig neu ymchwilydd gyrfa gynnar sydd wedi cwblhau, neu sy’n gweithio ar, brosiect neu draethawd hir. Dyddiad cau: 3 Gorffennaf