Cyfres Seminarau’r Coleg Doethurol
Cyfres Seminarau’r Coleg Doethurol
Ymunwch â ni ar gyfer ein seminar nesaf yng Nghyfres Seminarau’r Coleg Doethurol. Mae’r gyfres o sgyrsiau yn dod ag ymchwilwyr ôl-raddedig a staff ar draws y Brifysgol at ei gilydd er mwyn rhannu mewnwelediadau i straeon a dysgu ymchwilwyr.
Croeso i bawb!
Cofrestrwch yma
Beyond Silos: Exploring Interdisciplinary
Dr Rebekah Humphreys
25 Mawrth 2026
1-2pm
Ar-lein
Nod y gweithdy hwn yw rhoi cyfle i archwilio ystyr rhyngddisgyblaethol (mewn cyferbyniad ag amlddisgyblaetholdeb a thrawsddisgyblaetholdeb) mewn theori ac yn ymarferol, ei bwysigrwydd mewn perthynas â meddwl am atebion i broblemau a materion byd-eang anodd eu trin, a’r manteision a’r rhwystrau sy’n codi mewn perthynas ag ysgolheictod, dulliau ac ymagweddau.
Mae Dr Rebekah Humphreys yn Uwch Ddarlithydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Caerfyrddin, lle mae’n gyd-gadeirydd Pwyllgor Prifysgol Moeseg ac Uniondeb Ymchwil PCYDDS. Mae ei gwaith yn cynnwys moeseg anifeiliaid, moeseg amgylcheddol, ac astudiaethau anifeiliaid beirniadol, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y croestoriadau rhwng moeseg, etholeg a seicoleg. Hi yw awdur Animals, Ethics and Language: The Philosophy of Meaningful Communication in the Lives of Animals (Palgrave, 2023), Animal Studies and Philosophy (2025), yn ogystal ag ystod o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn moeseg anifeiliaid.
Gallwch ddod o hyd i’w gwaith yma:
Cofrestrwch yma