Yn llwytho Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

Cyfres Seminarau’r Coleg Doethurol

4 June @ 1:00 pm - 2:00 pm

Ymunwch â ni ar gyfer ein seminar nesaf yng Nghyfres Seminarau’r Coleg Doethurol. Mae’r gyfres o sgyrsiau yn dod ag ymchwilwyr ôl-raddedig a staff ar draws y Brifysgol at ei gilydd er mwyn rhannu mewnwelediadau i straeon a dysgu ymchwilwyr.

Croeso i bawb!

 

Cofrestrwch yma

Why do countries play games with no rules?

Dr Suresh George

4 Mehefin

1yp – 2yp

Birmingham ac Ar-lein

Nod y sesiwn hon yw archwilio pam mae gwledydd yn chwarae gemau geowleidyddol heb reolau. Gan ddefnyddio fframwaith golwg o’r ‘wladwriaeth’ sy’n seiliedig ar adnoddau (RBS), rydym yn archwilio sut mae gwledydd yn creu bwriad strategol a marchnadoedd strategol i’w cwmnïau gystadlu ynddynt. Bydd y sesiwn hefyd yn adolygu’n fyr y ‘gêm fawr’ newydd lle mae gwladwriaethau yn creu ffynonellau adnoddau anniriaethol newydd a allai inswleiddio cwmnïau buddiannau cenedlaethol rhag cystadleuaeth mewn marchnadoedd penodol.

 

Bywgraffiad

Mae Dr Suresh George yn Gyfarwyddwr Academaidd ar gyfer Disgyblaethau Rheoli Busnes a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Campws Birmingham. Mae wedi bod yn ymchwilio ac yn sylwedbu ar y cysylltiadau rhwng Busnes Rhyngwladol, amgylcheddau sefydliadol a chyd-destun geowleidyddol gwneud busnes o safbwynt pracademaidd ers dros 20 mlynedd. Mae Suresh wedi ysgrifennu tri llyfr, Going Global- a practical guide (Pearson, 2013), Global Marketing Management System (WorldScientific, 2017) a Sustainable Economy and Emerging Markets (Routledge, 2020).

Mae diddordebau ymchwil Suresh wedi troi o amgylch Strategaeth Fyd-eang, Marchnadoedd sy’n Dod i’r Amlwg, Busnes Rhyngwladol, Rheolaeth Strategol, Sefydliadau a Strategaeth cwmnïau. Mae Suresh wedi dal cadeiriau athro gwadd yng Ngwlad Groeg, Portiwgal, Ffrainc, India, Kenya, a’r Unol Daleithiau. Mae hefyd yn gyd-ddatblygwr meddalwedd addysgu’r System Rheoli Marchnata Byd-eang (GMMS) sydd wedi cael ei defnyddio mewn dros 37 o brifysgolion i addysgu Busnes Byd-eang.

Cyn ei gyrfa academaidd, roedd gan Suresh swyddi uwch yn y busnes peirianneg telathrebu yn India ac Oman. Mae Suresh yn aelod o Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electroneg ac yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (FRSA).

 

Cofrestrwch yma

https://events.teams.microsoft.com/event/a8f13320-95fb-4b6c-9a5f-2c21fb2c40ff@4e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21

Manylion

  • Dyddiad: 4 June
  • Amser:
    1:00 pm - 2:00 pm

Venue

  • Ar-lein