Gwneud yn fawr o’ch Goruchwyliwr
5 November @ 1:00 pm - 2:30 pm
Mae’r sesiwn hon yn ymdrin â sut i wneud yn fawr o’r berthynas sy’n bodoli rhwng y myfyriwr/ myfyrwraig a’r goruchwyliwr, a sut mae’r fath berthnasau’n datblygu a newid dros gyfnod. Mae hi wedi’i chynllunio er mwyn mynd i’r afael â gwahanol elfennau o’r hyn a ddisgwylir o fyfyrwyr doethurol gan oruchwylwyr, y staff a’r brifysgol; ynghyd â’r broses adolygu flynyddol ac adborth, a hefyd, yr elfennau mwy ymarferol o’r perthnasau sy’n datblygu. Gwnaiff y sesiwn hefyd gynnwys yr hyn y dylech ei wneud pe baech yn cael unrhyw broblemau, neu os ydych am wneud unrhyw newidiadau i’ch tîm goruchwylio.
Nodau’r sesiwn hon yw:
- Deall rolau a chyfrifoldebau myfyrwyr a goruchwylwyr
- Deall disgwyliadau’r brifysgol o ran perthnasau goruchwylio
- Dysgu lle y dylech fynd pe bai unrhyw broblemau’n codi.
Sesiwn ar gyfer myfyrwyr yw hon
Cyflwynir y sesiwn hon drwy gyfrwng y Saesneg
Cofrestrwch yma –