- This Digwyddiad has passed.
Sesiynau Adborth a Thrafod ar gyfer Ôl-raddedigion
Helo bawb,
Rainna sydd yma, un o’ch Swyddogion Sabothol. Fel myfyriwr ôl-raddedig fy hun, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw hi fod ein profiadau’n cael eu clywed, ac rwyf am weithio gyda chi i helpu â gwneud y profiad ôl-raddedig yn y Drindod Dewi Sant hyd yn oed yn well.
Byddwn wrth fy modd pe baech chi’n ymuno ag un o’n Sesiynau Adborth a Thrafod ar gyfer Ôl-raddedigion sydd ar ddod. Mae’r sesiynau anffurfiol hyn yn gyfle i ddod draw am sgwrs, cael diod a rhywbeth bach i’w fwyta, a rhannu eich barn ar yr hyn sy’n mynd yn dda, yr hyn a allai fod yn well, a pha newidiadau yr hoffech chi eu gweld.
Mae’r sesiynau anffurfiol hyn yn gyfle i rannu eich profiad o fywyd yn y Drindod Dewi Sant, dweud wrthym beth sy’n mynd yn dda, beth allai fod yn well, a pha newidiadau yr hoffech chi eu gweld. Darperir diodydd a byrbrydau yn y sesiynau wyneb-yn-wyneb.
Dyma’r opsiynau ar gyfer sesiynau:
- Llundain
- Dydd Iau 16eg Ebrill, 1:30pm tan 2:30pm
- LH116
- Abertawe
- Dydd Mawrth 28ain Ebrill, 12pm tan 1pm
- Dinefwr, Stiwdio Griffith
- Caerfyrddin
- Dydd Mercher 29ain Ebrill, 12pm tan 1pm
- Adeilad yr UM
- Ar-lein
- Dydd Mawrth 5ed Mai, 12pm tan 1pm
- Cyfarfod Teams
Cwblhewch y ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb:
Sesiynau Adborth a Thrafodaeth Ôl-raddedig – Llenwch y ffurflen
Os nad yw’r amseroedd hyn yn gyfleus i chi, cwblhewch y ffurflen o hyd i gofrestru eich diddordeb. Gallai eich ymateb ein helpu i gynllunio sesiynau yn y dyfodol.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Pob hwyl,
Rainna