Sesiynau galw heibio Moeseg Ymchwil
20 May @ 9:00 am - 10:00 am
Os ydych chi’n fyfyriwr ymchwil, mae cael cymeradwyaeth foesegol ar gyfer eich traethawd ymchwil / prosiect (trwy gwblhau PG2 / Cais Moeseg Ymchwil) yn rhan hanfodol o’ch taith ymchwil. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses moeseg ymchwil neu am agweddau penodol ar y PG2, mae croeso i chi ‘alw heibio’ un o’n sesiynau galw heibio moeseg ymchwil. Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw; dim ond troi i fyny. Bydd Cyd-gadeiryddion y Pwyllgor Moeseg Ymchwil (yr Athro Nik Whithead, a Dr Rebekah Humphreys) yn eich helpu gyda’ch ymholiadau / cwestiynau.
Ar gyfer staff a myfyrwyr.