- This Digwyddiad has passed.
Sgyrsiau’r Stryd: Ymchwil, Syniadau ac Arloesi
Mae’n bleser gennym wahodd staff, myfyrwyr a chydweithwyr PCYDDS gyfan i’r sesiwn Sgyrsiau’r Stryd: Ymchwil, Syniadau ac Arloesi a fydd yn cael ei chynnal:
Pryd: Dydd Mercher 24 Mehefin 2026, 12:30pm – 1:30pm
Ble: Y Stryd, Matrics Arloesi, Campws SA1 Glannau Abertawe
Cyfres o sgyrsiau anffurfiol yw Sgyrsiau’r Strys sy’n canolbwyntio ar ymchwil, syniadau ac arloesi. Wedi’u cynnal yn yr ardal ganolog a rennir yn y Matrics Arloesi, daw’r sesiynau hyn â staff, myfyrwyr , diwydiant a’r gymuned ehangach ynghyd i rannu gwaith diddorol, annog trafodaeth ac archwilio ffyrdd newydd o feddwl.
Mae pob sesiwn yn cynnwys cyfres o sgyrsiau byr, diddorol wedi’i dilyn gan sgwrs agored a chyfle i rwydweithio.
The session will feature:
Georgia McKie – Uwch Ddarlithydd, Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru
Laura Ashley – 100 Mlynedd o Eicon.
Yn archwilio prosiect byw a gynhaliwyd gyda’r brand treftadaeth Prydeinig eiconig, Laura Ashley, gan gynnwys gwaith cydweithredol â Thîm Ddylunio Laura Ashley ac ymgysylltiad myfyrwyr ag archif y cwmni yn Hammersmith. Cynhaliwyd y prosiect trwy Gronfa Catalydd y Brifysgol ac mae’n amlygu cyfleoedd ar gyfer dysgu ac addysgu yn y dyfodol o fewn Patrymau Arwyneb a Thecstilau.
Yolanda Rendón Guerrero – Prosiect REPAIR, ATiC
Cyflwyniad i’r prosiect Retrofitting for the Future: Nature-Based Solutions for Climate Adaptation (REPAIR), gwaith ar y cyd rhwng PCYDDS, Prifysgol Abertawe ac UCL ochr yn ochr ag ystod o bartneriaid cymdeithasol. Bydd y sgwrs yn archwilio ôl-osod bioffilig, addasu ar gyfer yr hinsawdd, ac ymagweddau arloesol ar dai cymdeithasol cynaliadwy yn Abertawe.
David Barton – Cyfarwyddwr, Kaydair Ltd
Mewnwelediadau i Kaydair Ltd, egin fusnes dyfeisiau meddygol arloesol yn arbenigo mewn technoleg dadlwytho ar gyfer clwyfau a grëir gan bwyso a chyflyrau cyhyrysgerbydol. Bydd David yn trafod taith y cwmni, ei waith gyda sefydliadau blaenllaw a datblygiad technolegau orthotig â phatent.
I bwy mae o: –
- Ymchwilwyr
- Myfyrwyr a graddedigion
- Darlithwyr
- Cymunedau creadigol ac arloesol
- Busnesau a phartneriaid diwydiant
- Unrhyw un â diddordeb mewn syniadau newydd
Y bwriad yw bod Sgyrsiau’r Stryd yn agored, anffurfiol a chydweithredol – yn gyfle i rannu syniadau, cwrdd â phobl newydd ac archwilio arloesi ar draws disgyblaethau.
Os hoffech ei fynychu, cofrestrwch drwy ddefnyddio’r ddolen hon: https://www.eventbrite.com/cc/matrix-conversations-4825430
Rydym yn chwilio am siaradwyr posibl bob amser, ar draws y brifysgol a’r gymuned ehangach. Os ydych yn gweithio ar brosiect diddorol, darn o ymchwil, gwaith ar y cyd neu syniad yr hoffech ei rannu mewn sesiwn yn y dyfodol, cysylltwch â ni. Bydd y sesiynau nesaf ar: –
- 28 Hydref 2026
- 25 Tachwedd 2026
- 16 Rhagfyr 2026
Cysylltwch â ni os hoffech fod yn rhan o unrhyw un o’r sesiynau hyn. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.