Yn llwytho Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

  • This Digwyddiad has passed.

Sut i drechu melan y gaeaf

20 January @ 1:00 pm - 2:00 pm

Cyfres Seminarau’r Coleg Doethurol

Prof Stephen Palmer

20th Ionawr 2026 1-2pm

Mae ‘Melan y Gaeaf’ yn derm a ddefnyddir gan y cyhoedd, er nad yw’n gyflwr meddygol. Bydd y cyflwyniad hwn yn ystyried y rhesymau posibl dros y cwymp bach, dros dro hwn mewn hwyliau, egni a chymhelliant sy’n gallu digwydd yn ystod misoedd y gaeaf. Yn aml, mae’n digwydd ar ôl cyfnod y Nadolig neu pan fyddwn yn dychwelyd i’r gwaith ac/neu i astudio. Yna, bydd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar strategaethau ymdopi ymarferol, gan gynnwys ffyrdd i ddefnyddio sgiliau meddwl i herio unrhyw ffyrdd o feddwl sy’n achosi melan y gaeaf.

Yn y DU, mae tua 3% o bobl yn dioddef iselder arwyddocaol dros y gaeaf, a elwir yn Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD). Felly, bydd gwybod pryd i geisio help proffesiynol hefyd yn cael ei amlygu yn y ddarlith hon.

Manylion

Venue

  • Ar-lein