Myfyrwyr Presennol
Yn un o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig cyfredol PCYDDS, mae’r Coleg Doethurol yma i’ch cefnogi chi trwy bob cam o’ch taith ymchwil.
Ar y dudalen hon fe welwch ragor o wybodaeth a manylion am:
Hyfforddiant a digwyddiadau ymchwil OR
Mae’r Coleg Doethurol yn cynnal rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau ymchwil a sesiynau hyfforddi sydd wedi’u cynllunio’n benodol i gynorthwyo gydag astudiaeth ymchwil OR. Mae ein digwyddiadau a’n hyfforddiant wedi’u halinio â Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae i sicrhau eich bod chi, yn fyfyriwr ymchwil OR, yn gallu datblygu sgiliau hanfodol yn ymchwilydd yn ystod eich amser yn PCYDDS. Gellir dod o hyd i fanylion am ddigwyddiadau sydd i ddod isod.
Rydyn ni’n diweddaru ein digwyddiadau a’n calendr hyfforddi yn rheolaidd i sicrhau eich bod chi’n cadw llygad ar y dudalen hon!
Brosesau doethurol a cherrig milltir
Tra byddwch chi’n astudio yn PCYDDS, bydd gofyn i chi gwblhau sawl carreg filltir ffurfiol yn rhan o’ch astudiaethau ac mae’r Coleg Doethurol yma i’ch cefnogi chi trwy’r holl gamau hyn. Mae’r canlynol yn darparu canllawiau a chyngor cyffredinol gyda rhagor o wybodaeth ar gael yn y Cod Ymarfer ar gyfer Graddau Ymchwil.
Ymgeisio a chofrestru
Cam 1:
Cofrestru neu symud ymlaen i radd ymchwil
Yn fyfyriwr ymchwil newydd, eich cam cyntaf chi yw cwblhau’r broses gofrestru. Ar ôl derbyn eich cynnig i astudio drwy MyTSD, byddwch chi’n derbyn e-bost gyda gwybodaeth am sut i gofrestru tua phythefnos cyn i’ch astudiaethau ddechrau. Wrth gofrestru, byddwch chi’n
gyfrifol am dalu unrhyw ffioedd.
Yn achos y rhai sy’n symud ymlaen o raglen lle maent wedi cwblhau’r Rhan 1 a addysgir, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i Ran 2. Yn rhan o’r broses ddilyniant, mae angen ichi ailgofrestru ar Ran 2 eich astudiaethau.
Yn achos myfyrwyr Rhan 2, mae angen llenwi a chymeradwyo’r ffurflen enwebu ar gyfer eich tîm
goruchwylio (PG3) er mwyn sicrhau bod y staff cywir yn cael eu dyrannu i gefnogi eich prosiect ymchwil.
Rhaid i chi gofrestru bob blwyddyn. Mae cofrestru’n digwydd bob blwyddyn ar ben-blwydd dyddiad dechrau eich cwrs chi. Pan fydd y Brifysgol yn cysylltu â chi i ailgofrestru ar gyfer eich astudiaethau, gwnewch hynny, oherwydd gall methu â dilyn y broses hon arwain atoch chi
yn cael eich tynnu’n ôl o’ch rhaglen astudio.
Cam 2:
Cofrestru neu symud ymlaen i radd ymchwil
Yn rhan o’r broses o gychwyn arni, bydd disgwyl i chi fynd i ddigwyddiad cynefino gan eich Athrofa a’r Coleg Doethurol. Cynhelir y rhain naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein. Nod y sesiynau cynefino yw rhoi gwybodaeth bwysig ichi am eich Athrofa yn ogystal â’ch cyflwyno chi i’r prosesau doethurol. Gallan nhw fod yn gyfle da i ddysgu rhagor am y disgwyliadau ar gyfer myfyrwyr doethurol yn ogystal â chwrdd â staff a chydfyfyrwyr.
Disgwyliadau
I sicrhau y cewch chi a’r rhai o’ch cwmpas chi y profiad gorau posibl yn fyfyriwr ymchwil OR yn PCYDDS, byddwch chi’n gyfrifol am fodloni disgwyliadau canlynol y Brifysgol yn ystod eich astudio:
- Cofrestru gyda’r Brifysgol yn flynyddol ar ben-blwydd dyddiad dechrau eich cwrs. Bydd hefyd angen i chi ailgofrestru wrth symud o Ran 1 i Ran 2 eich astudiaethau. Bydd myfyrwyr partner yn cwblhau eu cofrestru gyda’u prif sefydliad yn unig, nid PCYDDS;
- Talu’r holl ffioedd gofynnol i’r Brifysgol;
- Bod mewn cysylltiad rheolaidd â’ch tîm goruchwyliob(rhagor isod);
- Sicrhau bod fersiwn derfynol eich traethawd ymchwil yn cael ei chyflwyno erbyn y dyddiad cyflwyno hwyraf;
- Dilyn y gofynion ar gyfer cyflwyno traethawd ymchwil;
- Gwneud eich tîm goruchwylio yn ymwybodol o unrhyw anghenion neu amgylchiadau penodol a allai effeithio ar eich gwaith;
- Ymgyfarwyddo â rheoliadau a chanllawiau, prosesau a gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer astudio
doethurol; - Cwblhau’r holl ffurflenni a phrosesau angenrheidiol a ddefnyddir gan y Brifysgol i fonitro cynnydd;
- Cymryd perchnogaeth o’ch cynllun ymchwil a’ch anghenion hyfforddi;
- Mynychu unrhyw sesiynau hyfforddi gorfodol/ darlithoedd/ seminarau/gweithdai sy’n rhan o’ch
rhaglen ymchwil.
Cerrig milltir
Cerrig Milltir | Rhagddodiad y Ffurf | Pan fo angen |
Cynnig ymchwil llawn | PG1 | ALl – O fewn 3 mis ar ôl cofrestru RhA – 6 mis ar ôl cofrestru |
Cymeradwyaeth foesegol | PG2 | ALl – 6 mis ar ôl cofrestru RhA – 12 mis ar ôl cofrestru |
Adolygiad cynnydd blynyddol | PG5 | Ar gais bob blwyddyn astudio (neu’n gynt os ystyrir bod angen) |
Panel prawf *os ydych wedi cofrestru ar raglen PhD yn unig | PG7 | ALI – dim hwyrach na 18 mis ar ôl y cofrestriad cychwynnol RhA – dim hwyrach na 36 mis ar ôl y cofrestriad cychwynnol |
Record of supervisory meetings | PG4 | Ar ôl pob cyfarfod goruchwylio |
Cynnig ymchwil llawn
Bydd gofyn i chi gwblhau cynnig ymchwil llawn (PG1) a’i gyflwyno i Borth MyTSD i’ch tîm goruchwylio, Pwyllgor Ymchwil yr Athrofa a’r Pwyllgor Graddau Ymchwil ei gymeradwyo. Dylai’r cynnig hwn gynnwys cynnig ymchwil sydd wedi’i ddatblygu’n llawn, gan gynnwys methodoleg ac amserlenni i’w gwblhau. Mae hwn yn gam pwysig o ran eich helpu i sicrhau bod gennych gynllun digonol ar gyfer dilyniant drwy eich astudiaeth.
Cymeradwyaeth foesegol
Yn rhan o’ch astudiaethau doethurol, bydd gofyn i chi gael cymeradwyaeth foesegol ar gyfer eich ymchwil. Pan fydd eich cynnig ymchwil llawn wedi’i gymeradwyo, y cam nesaf yw cael cymeradwyaeth foesegol. Bydd angen cyflwyno eich ffurflen foeseg (PG2) drwy Borth MyTSD ymhen pen tri mis ar ôl i’ch cynnig ymchwil (PG1) gael ei gymeradwyo. Er nad yw’n broses hir, dylech ganiatáu digon o amser i’ch moeseg gael ei chymeradwyo a dylech gynnwys hynny yn eich cynllun gwaith.
Mae eich tîm goruchwylio ar gael i helpu i’ch arwain drwy’r broses hon ac mae’r Coleg Doethurol yn gweithio gyda’r Pwyllgor Graddau Ymchwil i gynnal sesiynau hyfforddi a galw heibio rheolaidd ar gyfer ymchwilwyr OR gydol y flwyddyn.
Adolygiad cynnydd blynyddol
Bydd angen i chi lenwi adolygiad blynyddol (PG5) bob blwyddyn i’w fonitro gan y Pwyllgor Graddau Ymchwil. Rhaid cyflwyno’r ffurflen hon trwy Borth MyTSD. Y broses hon yw cyfle’r Brifysgol i wirio’ch cynnydd mewn perthynas â’ch astudiaethau. I gael rhagor o fanylion, yn cynnwys canlyniadau’r adolygiad cynnydd, cyfeiriwch at ddogfennau’r Cod Ymarfer ar gyfer Graddau Ymchwil.
Panel prawf (PhD yn unig)
Bydd myfyrwyr ar raglen PhD yn cael eu cofrestru, i ddechrau, ar gyfnod prawf o astudio. Er mwyn dod â’r cyfnod prawf i ben, bydd yn ofynnol i bob myfyriwr PhD gael panel prawf llwyddiannus.
Yn rhan o’r panel, disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno sampl o’u gwaith a disgwylir iddynt ddangos eu gallu i gyflawni eu prosiect ymchwil i’w gwblhau. Pan fydd panel prawf yn ddyledus, bydd Swyddfa’r Coleg Doethurol mewn cysylltiad uniongyrchol â myfyrwyr.
I weld y manylion llawn y prosesau a’r rheoliadau sy’n ymwneud â graddau ymchwil, edrychwch ar y Cod Ymarfer ar gyfer Graddau Ymchwil a’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
Manylion cyswllt
Eich tîm goruchwylio fydd y pwynt cyswllt gorau ar gyfer unrhyw gwestiynau academaidd o wybodaeth ond rydym hefyd yn deall y gall fod yn anodd gwybod â phwy i gysylltu am faterion penodol yn y brifysgol, felly mae’r rhestr isod wedi’i chynllunio i helpu i’ch llywio chi i’r grwpiau neu’r unigolion sydd yn y sefyllfa orau i’ch cynorthwyo chi.
Tîm y Coleg Doethurol – doctoral.college@uwtsd.ac.uk
For advice on doctoral processes and milestones, contact the Doctoral College Office at pgresearch@uwtsd.ac.uk
Am gyngor ar gofrestru cysylltwch â’r gofrestrfa ymchwil OR yn registrypgr@uwtsd.ac.uk
Ar gyfer materion TG, gan gynnwys defnyddio Porth Coleg Doethurol MyTSD, cysylltwch â’r ddesg gymorth TG
I gael unrhyw gymorth lles, dilynwch y ddolen hon i dudalennau Cymorth a Llesiant Myfyrwyr y brifysgol
I siarad â rhywun ynglŷn â chymorth gyrfaoedd, gallwch gysylltu â chynghorydd gyrfaoedd ymchwilwyr OR Melanie Hall yn m.hall@pcydds.ac.uk
Os nad ydych chi’n siŵr â phwy i gysylltu, anfonwch e-bost i dîm y Coleg Doethurol a byddwn yn hapus i helpu.