Safonau’r Gymraeg ac Ymchwil Ôl-raddedig

A ydych yn cynnal ymchwil yng Nghymru neu gyda chymunedau Cymraeg, ac yn teimlo’n ansicr ynglŷn â sut mae Safonau’r Gymraeg yn berthnasol i chi? Darllenwch yr isod i ddysgu rhagor.

Fel myfyrwyr ôl-raddedig, dim ond os yw’r prosiect ymchwil yn dylanwadu ar benderfyniad polisi’r Brifysgol y mae Safonau’r Iaith Gymraeg yn berthnasol, h.y. unrhyw benderfyniad a wneir gan y Brifysgol ynghylch arfer ei swyddogaethau neu ynghylch cynnal ei busnes neu ymgymeriad arall. Felly, ar wahân i’r amod uchod, nid oes gofyn i fyfyrwyr gymhwyso Safonau’r Iaith Gymraeg yn eu prosiectau ymchwil.

Fodd bynnag, mewn perthynas ag arfer da, efallai y bydd myfyriwr sy’n ymgymryd â phrosiect ymchwil yn dymuno ystyried:

(a) a yw cynnwys y prosiect ymchwil yn awgrymu y dylid ei gyhoeddi yn Gymraeg, neu
(b) Os yw’r gynulleidfa ddisgwyliedig a’u disgwyliadau yn awgrymu y dylid cynnal y prosiect ymchwil yn y Gymraeg.

Os hoffech ddysgu rhagor am Safonau’r Gymraeg yn PCYDDS a thrafod sut maent yn effeithio arnoch, croeso i chi siarad â thîm yr Iaith Gymraeg ar  iaithgymraeg@pcydds.ac.uk