{"id":1888,"date":"2026-05-21T11:12:39","date_gmt":"2026-05-21T10:12:39","guid":{"rendered":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/gwahoddiad-digwyddiad-rhwydweithio-ol-raddedig-biophilic-living-a-nature-based-solutions\/"},"modified":"2026-05-21T11:12:39","modified_gmt":"2026-05-21T10:12:39","slug":"gwahoddiad-digwyddiad-rhwydweithio-ol-raddedig-biophilic-living-a-nature-based-solutions","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/gwahoddiad-digwyddiad-rhwydweithio-ol-raddedig-biophilic-living-a-nature-based-solutions\/","title":{"rendered":"Gwahoddiad: Digwyddiad Rhwydweithio \u00d4l-raddedig \u2013 Biophilic Living a Nature-based Solutions"},"content":{"rendered":"<p>Annwyl bawb,<\/p>\n<p>Fe&#8217;ch gwahoddir i ymuno \u00e2 ni ar gyfer y Digwyddiad Rhwydweithio \u00d4l-raddedig Biophilic Living cyntaf, a gynhelir ar y cyd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Trefnir y digwyddiad hwn gan Brosiect REPAIR (www.biophilic.wales), prosiect a ariennir gan gyngor ymchwil sy&#8217;n archwilio Biophilic Living ac atebion sy&#8217;n seiliedig ar natur trwy ddull trawsddisgyblaethol. Fel rhan o hyn, rydym yn sefydlu rhwydwaith ymchwil \u00f4l-raddedig i ddod ag ymchwilwyr \u00f4l-raddedig ynghyd sydd \u00e2 diddordebau cyffredin neu gysylltiedig ar draws ystod eang o ddisgyblaethau  <\/p>\n<p>Rydym yn croesawu ymchwilwyr \u00f4l-raddedig o bob disgyblaeth sydd \u00e2 diddordeb ymchwil mewn Biophilic Living a Nature-based Solutions, neu sydd \u00e2 chwilfrydedd amdanynt. Fel prosiect trawsddisgyblaethol, rydym yn cydnabod bod y them\u00e2u hyn yn cysylltu ag ystod eang o feysydd a safbwyntiau. Gall eich ymchwil ganolbwyntio&#8217;n uniongyrchol ar y meysydd hyn, cysylltu \u00e2 nhw&#8217;n anuniongyrchol, neu efallai bod gennych ddiddordeb ehangach yn y ffordd y mae natur, pobl, lleoedd, systemau, iechyd, cynaliadwyedd, creadigrwydd, technoleg, polisi, neu gymunedau&#8217;n rhyngweithio. Felly, rydym yn annog cyfranogiad o bob disgyblaeth, gan gynnwys y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol a STEM, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, gelfyddyd gain, dylunio, cyfathrebu, polisi, cynllunio, y gyfraith, economi gylchol, seicoleg, peirianneg, deunyddiau, pensaern\u00efaeth, adeiladu, gwyddorau iechyd, cyllid a busnes gwyrdd, cyfrifiadura, daearyddiaeth, biowyddorau, cyfrifiadureg, delweddu, ymchwil amgylcheddol, addysg, ymgysylltu \u00e2&#8217;r cyhoedd, economeg, ysgrifennu creadigol, hanes, ieithoedd, llenyddiaeth, athroniaeth neu unrhyw ddisgyblaeth neu faes ymchwil arall.   <\/p>\n<p>Bwriedir i&#8217;r sesiwn gyntaf hon fod yn ddigwyddiad ymgynghori a chyd-greu. Y nod yw dechrau adeiladu cymuned drawsddisgyblaethol o ymchwilwyr \u00f4l-raddedig sydd \u00e2 diddordebau cyffredin, a datblygu rhwydwaith sy&#8217;n adlewyrchu anghenion, syniadau ac uchelgeisiau ei aelodau. <\/p>\n<p>Ochr yn ochr \u00e2 chyflwyniad byr i Brosiect REPAIR, bydd y sesiwn yn lle i drafod a rhwydweithio. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed: <\/p>\n<p>\u2022 Sut mae eich ymchwil neu ddiddordebau&#8217;n cysylltu \u00e2&#8217;r them\u00e2u hyn \u2022 Pa gyfleoedd neu gymorth y byddech chi&#8217;n eu gwerthfawrogi gan rwydwaith ymchwil \u00f4l-raddedig \u2022 Pa fath o weithgareddau, cydweithrediadau, neu ddigwyddiadau fyddai fwyaf defnyddiol \u2022 A ddylai&#8217;r rhwydwaith ehangu y tu hwnt i Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.<\/p>\n<p>Rydym hefyd yn gobeithio nodi cynrychiolwyr Ymchwil \u00d4l-raddedig a hoffai helpu i lunio a chefnogi datblygiad y rhwydwaith yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Dyddiad: Dydd Gwener, 11 Mehefin Amser: 12:30\u201315:00 Lleoliad: Prifysgol Abertawe, Parc Singleton (Ystafell 039 \u2013 (Annedd) Adeilad Kier Hardie<\/p>\n<p>Byddem wrth ein boddau pe byddech yn ymuno \u00e2 ni. Os hoffech ddod, cwblhewch y Ffurflen <a href=\"https:\/\/forms.office.com\/pages\/responsepage.aspx?id=LrXKu76f1kOi859mxD3yaA-KrX4b-VpMgPw_Ee4SzFhUNzBEQVFRS0dDQTRRSUxGWFlWTEJLWDNRMi4u&#038;route=shorturl\">Microsoft Form Digwyddiad Rhwydweithio Ymchwil \u00d4l-raddedig Project REPAIR &#8211; Cwblhewch y ffurflen.<\/a> <\/p>\n<p>Yn y cyfamser, os oes gennych gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu \u00e2 Rheolwr Prosiect REPAIR, Sherryl Bellfield, yn s.l.bellfield@abertawe.ac.uk<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Annwyl bawb, Fe&#8217;ch gwahoddir i ymuno \u00e2 ni ar gyfer y Digwyddiad Rhwydweithio \u00d4l-raddedig Biophilic Living cyntaf, a gynhelir ar y cyd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[33],"tags":[],"class_list":["post-1888","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-hysbysfwrdd-a-chyfleoedd"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1888","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1888"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1888\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1888"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1888"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1888"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}