{"id":2088,"date":"2026-10-08T10:26:56","date_gmt":"2026-10-08T09:26:56","guid":{"rendered":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/canllawiau-ar-gyfer-y-rhai-syn-defnyddio-platfformau-neu-apiau-y-tu-allan-ir-du-ue-diweddarwyd-16-09-26\/"},"modified":"2026-10-08T10:26:56","modified_gmt":"2026-10-08T09:26:56","slug":"canllawiau-ar-gyfer-y-rhai-syn-defnyddio-platfformau-neu-apiau-y-tu-allan-ir-du-ue-diweddarwyd-16-09-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/canllawiau-ar-gyfer-y-rhai-syn-defnyddio-platfformau-neu-apiau-y-tu-allan-ir-du-ue-diweddarwyd-16-09-26\/","title":{"rendered":"Canllawiau ar gyfer y rhai sy\u2019n defnyddio platfformau neu apiau y tu allan i\u2019r DU\/UE. Diweddarwyd 16\/09\/26"},"content":{"rendered":"<p>Sylwch ar y newidiadau pwysig isod ar gyfer unrhyw un sy\u2019n bwriadu defnyddio unrhyw blatfformau sy\u2019n cael eu cynnal y tu allan i\u2019r DU neu\u2019r UE. Mae\u2019r newidiadau hyn wedi dod i rym ar unwaith a rhaid eu hadlewyrchu mewn ymchwil yn y dyfodol.Sylwch ar y newidiadau pwysig isod ar gyfer unrhyw un sy\u2019n bwriadu defnyddio unrhyw blatfformau sy\u2019n cael eu cynnal y tu allan i\u2019r DU neu\u2019r UE. Mae\u2019r newidiadau hyn wedi dod i rym ar unwaith a rhaid eu hadlewyrchu mewn ymchwil yn y dyfodol. <\/p>\n<p>Os ydych chi\u2019n cynllunio eich ymchwil ar hyn o bryd, rhaid i chi ystyried y newidiadau hyn wrth gwblhau eich ffurflen PG2.<\/p>\n<p>Mae\u2019r canllawiau hyn yn berthnasol i bawb sy\u2019n defnyddio platfformau digidol, fel platfformau e-fasnach, sydd wedi\u2019u cynnal y tu allan i\u2019r DU a\u2019r UE.<\/p>\n<p><strong>Gofynion moesegol ar gyfer defnyddio Platfformau Digidol neu apiau nad ydynt yn cael eu cynnal yn y DU\/UE wrth Gasglu Data Ymchwil \u00d4l-raddedig.<\/strong><\/p>\n<p><strong> <\/strong>Mewn sefyllfaoedd lle nad ydym yn gallu bod yn sicr y bydd y data hynny\u2019n aros yn y DU neu\u2019r UE, rhaid cael caniat\u00e2d penodol o bob cyfrannwr cyn eu defnyddio.<\/p>\n<p>Dylech greu Taflen Wybodaeth i Gyfranogwyr (PIS) ar gyfer yr ap sy\u2019n darparu:<\/p>\n<ol>\n<li>Manylion llawn yr ap, gan gynnwys esboniad o\u2019r ffyrdd y gallai brosesu\u2019r data fel yr amlinellir yn eu datganiad preifatrwydd neu eu contract. Dylid cynnwys dolen i\u2019r datganiad preifatrwydd hefyd. <\/li>\n<li>Datganiad yn debyg i hyn: \u201cTrwy gymryd rhan yn yr ymchwil hwn rydych chi\u2019n cytuno i ddefnyddio\u2019r [&#8230;] ap a allai storio a phrosesu eich gwybodaeth y tu allan i\u2019r DU. Rydych chi\u2019n cytuno nad yw PCYDDS yn gyfrifol am unrhyw ffordd y gallai eich data gael eu defnyddio gan [&#8230;]\u201d<\/li>\n<li>Llofnod (digidol neu ysgrifenedig yn dderbyniol) a dyddiad. Rhaid i\u2019r PIS gael ei lofnodi a\u2019i ddyddio cyn y gall y cyfranogwr ddechrau cymryd rhan yn eich ymchwil. Gall blwch ticio y mae cyfranogwr yn ei ddewis yn weithredol fod yn dderbyniol fel tystiolaeth o gydsyniad yn lle llofnod digidol neu ysgrifenedig hefyd.  <\/li>\n<\/ol>\n<p><strong>Defnyddio WeChat a Phlatfformau Cyfryngau Cymdeithasol neu Negeseuon Tebyg:<\/strong> Dylai ymchwilwyr sy\u2019n bwriadu defnyddio WEChat (Weixin), neu blatfformau tebyg fel Welbo, WhatsApp, Facebook, Instagram, X (Twitter gynt), LinkedIn ar gyfer recriwtio, cyfathrebu, neu gasglu data fod yn ymwybodol y gallai data personol gael eu prosesu neu eu storio y tu allan i\u2019r DU\/UE a gall fod yn ddarostyngedig i fframweithiau cyfreithiol, rheoleiddiol a phreifatrwydd gwahanol. Cyn casglu neu rannu data ymchwil trwy blatfformau o\u2019r fath, rhaid i ymchwilwyr ystyried diogelu data, cyfrinachedd, cydsyniad gwybodus, ac unrhyw ofynion trosglwyddo data traws ffiniol. Dylid hysbysu cyfranogwyr am unrhyw gyfyngiadau preifatrwydd sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r platfform a ddefnyddir, a dylid trosglwyddo data ymchwil adnabyddadwy i systemau diogel a gymeradwywyd gan y Brifysgol ac nid eu cadw\u2019n ddiangen ar gymwysiadau trydydd parti. Dylai ymchwilwyr geisio cyngor gan eu goruchwyliwr neu\u2019r Pwyllgor Moeseg Ymchwil lle bo hynny\u2019n briodol.   <\/p>\n<p><strong>SYLWER: Os nad oes datganiad preifatrwydd gan y platfform digidol\/ap, neu os nad yw\u2019n cael ei nodi\u2019n glir ar gontract neu o fewn eu telerau ac amodau, ni fydd ei ddefnydd yn cael ei gymeradwyo.<\/strong><\/p>\n<p><strong> <\/strong>Mae\u2019r diweddariadau hyn yn ymwneud \u00e2 rhan berthnasol o\u2019n Polisi Rheoli Data Ymchwil:<\/p>\n<p>6.11. Nid yw GDPR y DU yn caniat\u00e1u trosglwyddo data personol y tu allan i\u2019r UE neu wlad heb ddiogelwch digonol heb fodloni amod fel cydsyniad penodol neu gontract rhwymol. Felly, dylai ymchwilwyr bob amser gael cydsyniad penodol neu anomeiddio data cyn anfon data y tu allan i\u2019r Ardal Economaidd Ewropeaidd (Y UE a Norwy, Gwlad yr I\u00e2 a Liechtenstein). <\/p>\n<p>Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch \u00e2 Chadeiryddion y Pwyllgor Moeseg Ymchwil yn<\/p>\n<p><a href=\"mailto:r.humphreys@uwtsd.ac.uk\">r.humphreys@uwtsd.ac.uk<\/a> a <a href=\"mailto:nicola.whitehead@uwtsd.ac.uk\">nicola.whitehead@uwtsd.ac.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Sylwch ar y newidiadau pwysig isod ar gyfer unrhyw un sy\u2019n bwriadu defnyddio unrhyw blatfformau sy\u2019n cael eu cynnal y tu allan i\u2019r DU neu\u2019r UE. Mae\u2019r newidiadau hyn wedi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[33],"tags":[],"class_list":["post-2088","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-hysbysfwrdd-a-chyfleoedd"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2088","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2088"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2088\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2088"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2088"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2088"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}