{"id":1400,"date":"2026-01-16T11:39:54","date_gmt":"2026-01-16T11:39:54","guid":{"rendered":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/event\/cyhoeddi-deunydd-ffeithiol-ar-gyfer-y-darllenydd-cyffredinol\/"},"modified":"2026-01-16T11:39:54","modified_gmt":"2026-01-16T11:39:54","slug":"cyhoeddi-deunydd-ffeithiol-ar-gyfer-y-darllenydd-cyffredinol","status":"publish","type":"tribe_events","link":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/digwyddiad\/cyhoeddi-deunydd-ffeithiol-ar-gyfer-y-darllenydd-cyffredinol\/","title":{"rendered":"Cyhoeddi deunydd ffeithiol ar gyfer y darllenydd cyffredinol"},"content":{"rendered":"<p>Bwriad y sesiwn weithdy ryngweithiol hon yw annog ymchwilwyr i gyhoeddi deunyddiau ffeithiol drwy ddysgu strategaethau o safbwyntiau\u2019r awdur a\u2019r golygydd. Mae\u2019n bleser mawr gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gydweithio \u00e2\u2019n Cymrawd, yr Athro Hanna Diamond (Athro Emerita Hanes Ffrainc, Prifysgol Caerdydd) a Joanna Godfery (Uwch Olygydd Comisiynu, Gwasg Prifysgol Yale Llundain) i gynnal y sesiwn hon sy\u2019n agored i ymchwilwyr gyrfa gynnar a chanol gyrfa yng Nghymru. <\/p>\n<p>Bydd Jo Godfery yn defnyddio ei phrofiad yn Yale i amlinellu\u2019r prif egwyddorion ar gyfer datblygu llyfr masnachol llwyddiannus. Bydd Jo yn cynnig awgrymiadau ar sut all ymchwilwyr feddwl am bynciau sydd o ddiddordeb i gynulleidfa eang, a datblygu arddull ysgrifennu hygyrch a chymhellol. Bydd hefyd yn trafod perthnasedd meithrin ymgysylltiad \u00e2\u2019r cyhoedd er mwyn cynyddu dosbarthiad y llyfr ymysg y cyhoedd. Bydd Jo hefyd yn mynd i\u2019r afael \u00e2 phynciau cysylltiedig, gan gynnwys adolygu gan gymheiriaid a sut mae\u2019r modelau hyn yn croestorri ag ysgolheictod ffeithiol.  <\/p>\n<p>Bydd yr Athro Hanna Diamond yn canolbwyntio ar y grefft o gydbwyso dyfnder ysgolheigaidd \u00e2 natur ddarllenadwy. Yn seiliedig ar ei chyhoeddiad diweddar, \u2018<a href=\"https:\/\/yalebooks.co.uk\/book\/9780300279986\/josephine-bakers-secret-war\/\" target=\"_blank\" rel=\"nofollow noreferrer noopener\">Josephine Baker\u2019s Secret War\u2019<\/a>, bydd Hanna yn trafod sut y bu iddi integreiddio fframweithiau academaidd i gynnwys y llyfr, er enghraifft, sut yr ymdriniodd \u00e2 thystiolaeth a ffynonellau mewn ffyrdd sy\u2019n cyfrannu at y naratif a hynny wrth gynnal momentwm i ddarllenwyr cyffredinol. Yn ogystal, bydd Hanna yn myfyrio ar strategaethau i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ehangach mewn trafodaethau ysgolheigaidd ac yn trafod sut y gall cyhoeddiadau masnachol gyfrannu at gydnabyddiaeth academaidd, gan amlygu y gall llyfrau a anelir at ddarllenwyr cyffredinol gyflawni sgorau uchel mewn paneli REF a gweithio fel y sylfaen ar gyfer astudiaethau achos effaith REF.  <\/p>\n<p><strong><br \/>\nSiaradwyr Gwadd:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><strong>Yr Athro Hanna Diamond (FLSW), Athro Emerita Hanes Ffrainc ym Mhrifysgol Caerdydd<\/strong><br \/>\nMae Hanna Diamond yn Athro Emerita Hanes Ffrainc ym Mhrifysgol Caerdydd. Astudiodd ei gradd israddedig a\u2019i PhD ym Mhrifysgol Sussex. Treuliodd sawl blwyddyn yn addysgu ac yn ymchwilio yn Ffrainc cyn derbyn swydd darlithydd ym Mhrifysgol Caerfaddon ym 1993. Fe\u2019i penodwyd yn gadeirydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2014.<br \/>\nYn arbenigwr ar hanes cymdeithasol a diwylliannol Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae wedi cyhoeddi\u2019n helaeth ar y cyfnod, gan gynnwys, Fleeing Hitler: France 1940 (2007) ac Women and the Second World War in France 1939-48 (1999). Yn rheolaidd, mae\u2019n cynghori ar gynhyrchu ffilmiau a deunyddiau i\u2019r cyfryngau yn ogystal \u00e2 gweithio ag amgueddfeydd, yn nodedig &#8211; y Mus\u00e9e de la Lib\u00e9ration de Paris lle y bu iddi gyd-guradu arddangosfa ar ecsodus Ffrainc 1940.    <\/li>\n<li><strong>Joanna Godfrey, Uwch Olygydd Comisynu, Gwasg Prifysgol Yale Llundain<\/strong><br \/>\nJo Godfrey yw\u2019r Uwch Olygydd Comisiynu ar gyfer Hanes Modern a Materion Cyfoes yng Ngwasg Prifysgol Yale Llundain. Mae wedi gweithio yn y byd cyhoeddi ffeithiol am bron i ugain mlynedd ac yn y gorffennol mae wedi gweithio yn OUP, I.B.Tauris a Bloomsbury. <\/li>\n<\/ul>\n<p><strong><br \/>\nAgenda:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><strong>1.00-1.05pm: Croeso a Chyflwyniad<br \/>\n<\/strong><\/li>\n<li>1.05- 1.20pm: <strong>Ysgrifennu Llyfrau Cyffredinol &#8211; Mewnwelediadau o Yale<\/strong><br \/>\n&#8211; Deall ap\u00eal y gynulleidf<br \/>\n&#8211; Ysgrifennu strategaethau ar gyfer darllenwyr cyffredinol<br \/>\n&#8211; Adeiladu platfform sy\u2019n wynebu\u2019r cyhoedd ac ymgysylltu \u00e2\u2019r cyfryngau<br \/>\n&#8211; Ystyriaethau adolygiadau cyfoedion<\/li>\n<li>1.20-1.35pm: <strong>Cydbwyso Ysgolheictod a Hygyrchedd<\/strong><br \/>\n&#8211; Defnyddio troednodiadau i ddiogelu fframweithiau academaidd<br \/>\n&#8211; Plethu tystiolaeth a ffynonellau mewn naratif<br \/>\n&#8211; Cynnal diddordeb darllenwyr a chynnal dyfnder ysgolheigaidd ar yr un pryd<br \/>\n&#8211; Strategaethau i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach a dylanwad posibl o ran y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil<\/li>\n<li>1.35-1.45pm:<strong> Grwpiau Trafod<\/strong><br \/>\nMeddyliwch am eich hoff lyfr ffeithiol, llyfr a ddaliodd eich diddordeb fel darllenydd cyffredinol, gan gyfleu syniadau cymhleth a thrafodaethau ysgolheigaidd ar yr un pryd, a myfyriwch ar y cwestiynau canlynol:<br \/>\n(1) Pa 2-3 elfen a gynhaliodd eich diddordeb fel darllenydd? Yn eich barn chi, pam oedd y nodweddion hyn yn effeithiol o ran gwneud syniadau cymhleth yn hygyrch?<br \/>\n(2) Petaech yn dechrau ysgrifennu eich llyfr ffeithiol eich hun sy\u2019n pontio dyfnder academaidd \u00e2 diddordeb cyffredinol, beth fyddai eich her fwyaf a pham?<\/li>\n<li><strong>1.45-1.55pm: Sesiwn Holi ac Ateb<\/strong><\/li>\n<li><strong>1.55 &#8211; 2.00pm: Sylwadau i Gloi<br \/>\n<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Amdano&#8217;r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru:<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.learnedsociety.wales\/\" target=\"_blank\" rel=\"nofollow noreferrer noopener\">Rhwydwaith Ymchwilwyr <\/a>Gyrfa Gynnar yn rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr sy\u2019n gweithio ledled Cymru ac sydd yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd. Mae\u2019r Rhwydwaith yn cefnogi ymchwilwyr i dyfu eu rhwydweithiau ymchwil, cymryd rhan mewn cyfleoedd cydweithredol a rhyngddisgyblaethol, cael hyfforddiant, a dod o hyd i ffyrdd newydd o greu effaith gydag ymchwil.  <\/p>\n<ul>\n<li>Manteisiwch ar ein cyfleoedd diweddaraf drwy<strong><a href=\"https:\/\/wales.us10.list-manage.com\/subscribe?u=d2e9c633bcf1d3ffb31644dda&amp;id=752243d919\" target=\"_blank\" rel=\"nofollow noreferrer noopener\"> ymuno \u00e2 Rhwydwaith YGC<\/a><\/strong><\/li>\n<li>Dysgwch fwy am y Rhwydwaith drwy ein <strong><a href=\"https:\/\/www.learnedsociety.wales\/ecr-home\/\" target=\"_blank\" rel=\"nofollow noreferrer noopener\">Gwefan Rhwydwaith YGC<\/a><\/strong><\/li>\n<li>Cadwch mewn cysylltiad drwy ein dilyn ni ar <strong><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/company\/learned-society-of-wales\/\" target=\"_blank\" rel=\"nofollow noreferrer noopener\">LinkedIn<\/a><\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p><a href=\"https:\/\/www.tickettailor.com\/events\/thelearnedsocietyofwales\/1940631?mc_cid=658affef0f&amp;mc_eid=499c33199b\">Cofrestru | Register \u2013 Cyhoeddi deunydd ffeithiol ar gyfer y darllenydd cyffredinol | Publishing non-fiction for the general reader \u2013 Zoom<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bwriad y sesiwn weithdy ryngweithiol hon yw annog ymchwilwyr i gyhoeddi deunyddiau ffeithiol drwy ddysgu strategaethau o safbwyntiau\u2019r awdur a\u2019r golygydd. Mae\u2019n bleser mawr gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gydweithio \u00e2\u2019n [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"template":"","meta":{"_tribe_events_status":"","_tribe_events_status_reason":"","footnotes":""},"tags":[],"tribe_events_cat":[],"class_list":["post-1400","tribe_events","type-tribe_events","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tribe_events\/1400","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tribe_events"}],"about":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/tribe_events"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tribe_events\/1400\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1400"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1400"},{"taxonomy":"tribe_events_cat","embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tribe_events_cat?post=1400"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}