{"id":1915,"date":"2026-06-22T13:11:51","date_gmt":"2026-06-22T12:11:51","guid":{"rendered":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/event\/sgyrsiaur-stryd-ymchwil-syniadau-ac-arloesi\/"},"modified":"2026-06-22T13:11:51","modified_gmt":"2026-06-22T12:11:51","slug":"sgyrsiaur-stryd-ymchwil-syniadau-ac-arloesi","status":"publish","type":"tribe_events","link":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/digwyddiad\/sgyrsiaur-stryd-ymchwil-syniadau-ac-arloesi\/","title":{"rendered":"Sgyrsiau\u2019r Stryd: Ymchwil, Syniadau ac Arloesi"},"content":{"rendered":"<p data-olk-copy-source=\"MessageBody\">Mae\u2019n bleser gennym wahodd staff, myfyrwyr a chydweithwyr PCYDDS gyfan i\u2019r sesiwn Sgyrsiau\u2019r Stryd: Ymchwil, Syniadau ac Arloesi a fydd yn cael ei chynnal:<\/p>\n<p><\/p>\n<p><b>Pryd: Dydd Mercher 24 Mehefin 2026, 12:30pm \u2013 1:30pm<\/b><\/p>\n<p><b>Ble: Y Stryd, Matrics Arloesi, Campws SA1 Glannau Abertawe<\/b><\/p>\n<p><b> <\/b><\/p>\n<p>Cyfres o sgyrsiau anffurfiol yw Sgyrsiau\u2019r Strys sy\u2019n canolbwyntio ar ymchwil, syniadau ac arloesi. Wedi\u2019u cynnal yn yr ardal ganolog a rennir yn y Matrics Arloesi, daw\u2019r sesiynau hyn \u00e2 staff, myfyrwyr , diwydiant a\u2019r gymuned ehangach ynghyd i rannu gwaith diddorol, annog trafodaeth ac archwilio ffyrdd newydd o feddwl. <\/p>\n<p aria-hidden=\"true\">\n<p>Mae pob sesiwn yn cynnwys cyfres o sgyrsiau byr, diddorol wedi\u2019i dilyn gan sgwrs agored a chyfle i rwydweithio.<\/p>\n<p aria-hidden=\"true\">\n<p>The session will feature:<\/p>\n<p aria-hidden=\"true\">\n<p><b>Georgia McKie \u2013 Uwch Ddarlithydd, Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru<\/b><br \/>\nLaura Ashley &#8211; 100 Mlynedd o Eicon.<br \/>\nYn archwilio prosiect byw a gynhaliwyd gyda\u2019r brand treftadaeth Prydeinig eiconig, Laura Ashley, gan gynnwys gwaith cydweithredol \u00e2 Th\u00eem Ddylunio Laura Ashley ac ymgysylltiad myfyrwyr ag archif y cwmni yn Hammersmith. Cynhaliwyd y prosiect trwy Gronfa Catalydd y Brifysgol ac mae\u2019n amlygu cyfleoedd ar gyfer dysgu ac addysgu yn y dyfodol o fewn Patrymau Arwyneb a Thecstilau. <\/p>\n<p><b> <\/b><\/p>\n<p>Yolanda Rend\u00f3n Guerrero \u2013 Prosiect REPAIR, ATiC<br \/>\nCyflwyniad i\u2019r prosiect Retrofitting for the Future: Nature-Based Solutions for Climate Adaptation (REPAIR), gwaith ar y cyd rhwng PCYDDS, Prifysgol Abertawe ac UCL ochr yn ochr ag ystod o bartneriaid cymdeithasol. Bydd y sgwrs yn archwilio \u00f4l-osod bioffilig, addasu ar gyfer yr hinsawdd, ac ymagweddau arloesol ar dai cymdeithasol cynaliadwy yn Abertawe. <\/p>\n<p><b> <\/b><\/p>\n<p>David Barton \u2013 Cyfarwyddwr, Kaydair Ltd<br \/>\nMewnwelediadau i Kaydair Ltd, egin fusnes dyfeisiau meddygol arloesol yn arbenigo mewn technoleg dadlwytho ar gyfer clwyfau a gr\u00ebir gan bwyso a chyflyrau cyhyrysgerbydol. Bydd David yn trafod taith y cwmni, ei waith gyda sefydliadau blaenllaw a datblygiad technolegau orthotig \u00e2 phatent. <\/p>\n<p aria-hidden=\"true\">\n<p>I bwy mae o: &#8211;<\/p>\n<ul type=\"disc\">\n<li>Ymchwilwyr<\/li>\n<li>Myfyrwyr a graddedigion<\/li>\n<li>Darlithwyr<\/li>\n<li>Cymunedau creadigol ac arloesol<\/li>\n<li>Busnesau a phartneriaid diwydiant<\/li>\n<li>Unrhyw un \u00e2 diddordeb mewn syniadau newydd<\/li>\n<\/ul>\n<p>Y bwriad yw bod Sgyrsiau\u2019r Stryd yn agored, anffurfiol a chydweithredol \u2013 yn gyfle i rannu syniadau, cwrdd \u00e2 phobl newydd ac archwilio arloesi ar draws disgyblaethau.<\/p>\n<p aria-hidden=\"true\">\n<p>Os hoffech ei fynychu, cofrestrwch drwy ddefnyddio\u2019r ddolen hon: <a title=\"Original URL: https:\/\/www.eventbrite.com\/cc\/matrix-conversations-4825430?utm-campaign=social&#038;utm-content=creatorshare&#038;utm-medium=discovery&#038;utm-term=odclsxcollection&#038;utm-source=cp&#038;aff=escb. Click or tap if you trust this link.\" href=\"https:\/\/eur01.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.eventbrite.com%2Fcc%2Fmatrix-conversations-4825430%3Futm-campaign%3Dsocial%26utm-content%3Dcreatorshare%26utm-medium%3Ddiscovery%26utm-term%3Dodclsxcollection%26utm-source%3Dcp%26aff%3Descb&#038;data=05%7C02%7Cn.sharp%40uwtsd.ac.uk%7C0b88e2203ecd47e58eb308dec16f92e7%7C4e0f11f9046e45059cb8db2152311e21%7C0%7C0%7C639160882344316172%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJFbXB0eU1hcGkiOnRydWUsIlYiOiIwLjAuMDAwMCIsIlAiOiJXaW4zMiIsIkFOIjoiTWFpbCIsIldUIjoyfQ%3D%3D%7C0%7C%7C%7C&#038;sdata=Weg%2BYMgI8zuDiebu6Lt1NdQqzq7Ew8RJPVwiMu%2BxetM%3D&#038;reserved=0\" data-auth=\"NotApplicable\" data-linkindex=\"0\">https:\/\/www.eventbrite.com\/cc\/matrix-conversations-4825430<\/a><\/p>\n<p aria-hidden=\"true\">\n<p>Rydym yn chwilio am siaradwyr posibl bob amser, ar draws y brifysgol a\u2019r gymuned ehangach. Os ydych yn gweithio ar brosiect diddorol, darn o ymchwil, gwaith ar y cyd neu syniad yr hoffech ei rannu mewn sesiwn yn y dyfodol, cysylltwch \u00e2 ni. Bydd y sesiynau nesaf ar: &#8211;<\/p>\n<p aria-hidden=\"true\">\n<ul type=\"disc\">\n<li><b>28 Hydref 2026<\/b><\/li>\n<li><b>25 Tachwedd 2026<\/b><\/li>\n<li><b>16 Rhagfyr 2026<\/b><\/li>\n<\/ul>\n<p aria-hidden=\"true\">\n<p>Cysylltwch \u00e2 ni os hoffech fod yn rhan o unrhyw un o\u2019r sesiynau hyn. Edrychwn ymlaen at glywed gennych. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n bleser gennym wahodd staff, myfyrwyr a chydweithwyr PCYDDS gyfan i\u2019r sesiwn Sgyrsiau\u2019r Stryd: Ymchwil, Syniadau ac Arloesi a fydd yn cael ei chynnal: Pryd: Dydd Mercher 24 Mehefin 2026, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"template":"","meta":{"_tribe_events_status":"","_tribe_events_status_reason":"","footnotes":""},"tags":[],"tribe_events_cat":[],"class_list":["post-1915","tribe_events","type-tribe_events","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tribe_events\/1915","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tribe_events"}],"about":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/tribe_events"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tribe_events\/1915\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1915"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1915"},{"taxonomy":"tribe_events_cat","embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tribe_events_cat?post=1915"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}