{"id":2112,"date":"2026-10-22T14:31:10","date_gmt":"2026-10-22T13:31:10","guid":{"rendered":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/event\/cyfres-seminaraur-coleg-doethurol-5\/"},"modified":"2026-10-22T14:31:10","modified_gmt":"2026-10-22T13:31:10","slug":"cyfres-seminaraur-coleg-doethurol-5","status":"publish","type":"tribe_events","link":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/digwyddiad\/cyfres-seminaraur-coleg-doethurol-5\/","title":{"rendered":"Cyfres Seminarau\u2019r Coleg Doethurol"},"content":{"rendered":"<p><strong>Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol \u2013 Uchafbwyntiau ac Isafbwyntiau ymchwil maeth<\/strong><\/p>\n<p><strong>Dr Chris Cashin<\/strong><\/p>\n<p><strong>25 Tachwedd 2026<\/strong><strong>  <\/strong><\/p>\n<p><strong>Ar-lein<\/strong><\/p>\n<p><strong> <\/strong><\/p>\n<p>Ymunwch \u00e2 ni ar gyfer ein sesiwn nesaf yng Nghyfres Seminarau\u2019r Coleg Doethurol.<\/p>\n<p><strong> <\/strong><\/p>\n<p>Bydd sesiwn hon yn trafod y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol<\/li>\n<li>Rhesymau dros gwblhau\u2019r math hon o raglen<\/li>\n<li>Buddion y rhan a addysgir<\/li>\n<li>Y broses ymchwil \u2013 yn enwedig llywio fy hun drwy bandemig byd-eang<\/li>\n<li>Beth ydw i wedi\u2019i ddysgu?<\/li>\n<li>Beth oedd canlyniadau\u2019r ymchwil?<\/li>\n<li>Ble ydw i nawr?<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong><a href=\"https:\/\/events.teams.microsoft.com\/event\/aa9f5023-0843-4da4-9c9f-6bca379c3f3f@4e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21?source=copyLinkLegacyShareLinkDialog\">Cofrestrwch yma <\/a><\/strong><\/p>\n<p><strong> <\/strong><\/p>\n<p><strong>Astudiaeth achos yn archwilio cymeriant maethol pobl ifanc gwrywaidd 10 \u2013 16 oed yn Ne-ddwyrain Cymru a llythrennedd maethol eu rhieni neu eu gwarcheidwaid.<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Cyflwyniad: <\/strong> Mae\u2019r glasoed yn gyfnod o dwf cyflym a newid mawr ym mywydau pobl ifanc. Mae cyfres y Lancet ar faeth yn y gr\u0175p oedran hwn wedi tynnu sylw at y bylchau mewn gwybodaeth a rhaglenni effeithiol i gefnogi twf iach yn ystod y glasoed<sup>1.<\/sup> <\/p>\n<p>Ysgogwyd yr ymchwil gan y darganfyddiad bod chwiliadau o\u2019r llenyddiaeth gyhoeddedig ar gymeriant maethol y gr\u0175p oedran hwn yn gyfyngedig, yn ogystal \u00e2 data cyfyngedig ar faeth a llythrennedd bwyd rhieni\/gwarcheidwaid. Mae\u2019r ymchwilydd sy\u2019n ddietegydd a maethegydd chwaraeon ac yn gweithio gyda charfannau datblygu wedi nodi hyn hefyd. Arweiniodd hyn at yr ymchwilydd yn ymgymryd \u00e2\u2019r prosiect wrth astudio Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol.  <\/p>\n<p>Felly, nod cyffredinol yr ymchwil oedd deall beth oedd yr arfer maethol presennol mewn carfan o bobl ifanc gwrywaidd rhwng 10 a 16 oed yn ogystal \u00e2 rhai agweddau ar lythrennedd maethol eu rhieni\/gwarcheidwaid.<\/p>\n<p><strong> <\/strong><\/p>\n<p><strong>Dulliau: <\/strong> Cynhaliwyd yr ymchwil mewn clybiau rygbi yn Ne Cymru gan alluogi\u2019r ymchwilydd i gwrdd \u00e2\u2019r rhieni\/gwarcheidwaid yn hawdd. Defnyddiwyd dulliau cymysg lle dilynwyd dadansoddiad meintiol maethol o ddyddiaduron bwyd 5 diwrnod (<em>n=<\/em>37), gan gyfweliadau ansoddol lled-strwythuredig ar lythrennedd maethol gyda\u2019r rhieni\/gwarcheidwaid (<em>n=<\/em>17). Dadansoddwyd data o\u2019r dyddiaduron bwyd gan ddefnyddio meddalwedd<sup>2<\/sup> dadansoddi maethol a chymeriant o\u2019i gymharu \u00e2 Gwerthoedd Cyfeirio Dietegol a Chanllawiau Maeth yn y DU<sup>3<\/sup>. Rheolwyd y data gan ddefnyddio meddalwedd ddadansoddol SPSS, v 32 <sup>4.<\/sup> Dilynwyd hyn gan ddadansoddiad thematig o gyfweliadau lled-strwythuredig. Cymeradwywyd yr ymchwil gan y pwyllgor moeseg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.     <\/p>\n<p><strong> <\/strong><\/p>\n<p><strong>Canlyniadau:<\/strong> Nododd yr ymchwil nad oedd cymeriant maethol rhai o\u2019r gr\u0175p o bobl ifanc gwrywaidd yn bodloni canllawiau dietegol y Deyrnas Unedig. Dangoswyd proffiliau maethol tan-fwyta gan gynnwys calsiwm, haearn, seleniwm a fitamin D. Ni chafodd targedau maethol allweddol eraill megis bwyta ffrwythau a llysiau a physgod olewog eu bodloni. Ni chredir bod gan fechgyn o\u2019r oedran hwn anghenion maethol ychwanegol hyd yn oed os ydyn nhw\u2019n cymryd rhan mewn chwaraeon hamdden5. Roedd maeth a llythrennedd bwyd yn gyfyngedig yn y rhieni\/gwarcheidwaid, yn enwedig yn ymwneud \u00e2 deall prif faetholion a chanllawiau dietegol. Daeth yr ymchwil i\u2019r casgliad bod ganddynt ddealltwriaeth wael o\u2019r Canllaw Bwyta\u2019n Iach. Adroddodd y rhieni\/gwarcheidwaid fod gwybodaeth yn ymwneud \u00e2 maeth yn ddryslyd ac roedd angen iddi fod yn haws i\u2019w deall.   <\/p>\n<p><strong> <\/strong><\/p>\n<p>Casgliad: Daeth yr astudiaeth arsylwadol i\u2019r casgliad nad oedd y gr\u0175p o fechgyn yn bodloni rhai gofynion maeth a thargedau maethol allweddol. Dangosodd y rhieni\/gwarcheidwaid lythrennedd maethol cyfyngedig hefyd. Mae\u2019r astudiaeth hon o ddiddordeb i Ddietegwyr ac ymarferwyr gofal iechyd gan ei bod yn tynnu sylw at gymeriant maethol gwael mewn gr\u0175p o fechgyn yn eu harddegau, ochr yn ochr \u00e2 llythrennedd maethol cyfyngedig eu rhieni\/gwarcheidwaid. Dylai Ymarferwyr Iechyd ddechrau ystyried maeth a llythrennedd bwyd fel cyfle i ddeall pam mae unigolion yn gwneud dewisiadau bwyd personol, ochr yn ochr \u00e2 gwella mynediad i adnoddau addysg yn ymwneud \u00e2 maeth.   <\/p>\n<p><strong> <\/strong><\/p>\n<p><strong>Cyfeiriadau:<\/strong><\/p>\n<ol>\n<li>Norris S, Frongillo E, Black M, Dong Y, Fall C, Lampl M. Nutrition in growth and adolescence. <em>Lance<\/em>t. 2021;399(10320):174-184. <\/li>\n<li>Nutritics. Nutritional analysis software [Internet]. 2017 [cited 2018 Jan 20]. Available from: <a href=\"https:\/\/www.nutritics.com\/app\/?utm_source=chatgpt.com\">https:\/\/www.nutritics.com\/app\/<\/a>   <\/li>\n<li>Department of Health. Dietary reference values for food energy and nutrients for the United Kingdom: report of the panel on dietary reference values of the Committee on Medical Aspects of Food Policy. 5th ed. London: Stationery Office Books; 1991.   <\/li>\n<li>IBM Corp. IBM SPSS Statistics. Armonk (NY): IBM Corp.; 2022.<\/li>\n<li>Smith J, Jeukendrup A. Performance nutrition for young athletes. In: Bagchi D, et al., editors. <em>Nutrition and enhanced sports performanc<\/em>e. London: Academic Press; 2018.  <\/li>\n<\/ol>\n<p><strong> <\/strong><\/p>\n<p>Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno gan Dr Chris Cashin.<\/p>\n<p>Mae Chris yn uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn yr ysgol Chwaraeon a Byw\u2019n Iach yng Nghaerfyrddin lle mae\u2019n arwain ar Faeth. Fe yw Rheolwr Rhaglen ar gyfer y rhaglen MSc mewn Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff.<\/p>\n<p>Mae Chris yn Ddietegydd Cofrestredig gyda chefndir yn y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol, mae\u2019n Faethegydd Cofrestredig (Y Gymdeithas Maeth) ac yn Ymarferydd Cofrestredig (y Gofrestr Chwaraeon ac Ymarfer Corff).<\/p>\n<p>Mae cwblhau doethuriaeth wedi bod yn uchelgais Chris erioed a daeth y cyfle i wireddu hyn yn 2016. Cofrestrodd Chris ar gwrs Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ar \u00f4l cwblhau rhan o\u2019r rhaglen a addysgir, dechreuodd brosiect ymchwil. Penderfynodd Chris, sy\u2019n Ddietegydd Pediatrig yn y GIG, ddatblygu prosiect ymchwil sy\u2019n ymchwilio i gymeriant maethol chwaraewyr rygbi ifanc a llythrennedd maethol eu rhieni\/gwarcheidwaid, ar \u00f4l iddo weithio gyda llawer o garfannau datblygu fel Maethegydd Chwaraeon. Nododd fwlch yn y llenyddiaeth lle mae tystiolaeth gyfyngedig iawn ar yr hyn mae grwpiau o blant yn ei fwyta ac a oes gan rieni neu warcheidwaid wybodaeth ddigonol o ofynion maethol.    <\/p>\n<p><strong> <\/strong><\/p>\n<p><strong>Cofrestrwch yma <\/strong><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/events.teams.microsoft.com\/event\/aa9f5023-0843-4da4-9c9f-6bca379c3f3f@4e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21?source=copyLinkLegacyShareLinkDialog\">https:\/\/events.teams.microsoft.com\/event\/aa9f5023-0843-4da4-9c9f-6bca379c3f3f@4e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21?source=copyLinkLegacyShareLinkDialog<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol \u2013 Uchafbwyntiau ac Isafbwyntiau ymchwil maeth Dr Chris Cashin 25 Tachwedd 2026 Ar-lein Ymunwch \u00e2 ni ar gyfer ein sesiwn nesaf yng Nghyfres Seminarau\u2019r Coleg Doethurol. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"template":"","meta":{"_tribe_events_status":"","_tribe_events_status_reason":"","footnotes":""},"tags":[],"tribe_events_cat":[],"class_list":["post-2112","tribe_events","type-tribe_events","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tribe_events\/2112","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tribe_events"}],"about":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/tribe_events"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tribe_events\/2112\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2112"}],"wp:term":[{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2112"},{"taxonomy":"tribe_events_cat","embeddable":true,"href":"https:\/\/colegdoethurol.uwtsd.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tribe_events_cat?post=2112"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}